Actor ac ati
Prif nod fy ngwefan yw rhoi cyfle i chi ddod i wybod ychydig yn rhagor amdanaf, ac o ganlyniad i hynny y byddwch yn canfod fy mod yn addas ar gyfer rhyw waith rydych yn bwriadu ei gynhyrchu. Ar y llaw arall, os mai taro draw i fusnesan ydych chi, helo! Tybed nad oes rhywbeth pwysicach y dylech fod yn ei wneud?
Rwyf wedi fy hyfforddi ac wedi gweithio fel actor am flynyddoedd cyn cymryd cam yn ôl o'r maes i gael canolbwyntio ar fagu fy mhlant (pedwar o hogia ar y cownt diwethaf!)
Roedd penderfynu aros yn agos i gartref yn golygu y bu'n rhaid i mi ganfod swyddi gwahanol a meithrin sgiliau newydd, ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Ond â'r plant yn hŷn rwyf eto'n chwilio am ragor o waith perfformio, ac am roi gwybod i bobl - mae'n debyg taw dyna sut y daethoch ar draws y wefan, ac yn ei ddarllen yn awr...
Rwyf wedi perfformio yn y theatr, ar deledu a ffilm, mewn drama radio, ac wedi pypedu a lleisio cymeriadau rhaglenni plant. Dal â diddordeb......tarwch draw i'r dudalen Gwaith Perfformio
Fues i 'rioed yn ffan o'r term resting actor ac wastad wedi dymuno meithrin sgiliau newydd fyddai'n ddefnyddiol rhwng cyfnodau o waith perfformio. Felly dyna wnes i.
Dysgais fy hun sut i drin a thrafod côd er mwyn creu gwefannau syml ar gyfer hyrwyddo mentrau ffrindiau, a fi fy hun wrth gwrs! Ffrwyth llafur y dysgu hwnnw yw'r wefan hon. Dechreuais gwmni bach ar gyfer y gwaith yma, Eglur, ar y cyd â'm cyfaill Elgan Griffiths, sy'n ddylunydd graffeg talentog.
Penderfynais dreulio blwyddyn yn gweithio tuag at ennill cymhwyster Tystysgrif mewn Cyfieithu gyda Phrifysgol Cymru er mwyn gwneud gwaith cyfieithu o gartref.
Wedi cwblhau'r cwrs a phasio'r arholiadau treuliais flwyddyn yn gyfieithydd llawn amser gyda chwmni Cyfiaith. Tra oeddwn yno pasiais arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gael cymhwyster aelod sylfaenol.
Buais hefyd yn rhan o dîm o bobl sy'n gweithio ar brawf ddarllen fersiwn ddigidol Geiriadur yr Academi.
Rwyf wedi cael cyfle i gyfrannu at brosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol fel Ymarferydd Creadigol, gan ddefnyddio 'mhrofiad i gyfrannu sgiliau drama, sgwennu, cyfansoddi caneuon, ffilmio, animeiddio, storïo ac ati. Mae'n brofiad arbennig cael cydweithio â phlant ac athrawon i archwilio dulliau creadigol o ddysgu ac addysgu.
Y gwaith sain diweddaraf i mi ei gyflawni oedd cynhyrchu a recordio sain ar gyfer y fideo gwybodaeth hwn i wefan meddwl.org
Mae'r gwaith ysgolion creadigol arweiniol wedi rhoi cyfle i mi sgwennu a recordio caneuon gyda phlant, ac yn 2016 - cyfansoddais a recordio'r gerddoriaeth ar gyfer y ddrama Nid Fi i Arad Goch.
Rwyf wedi chwarae'r gitar mewn nifer o'r cynhyrchiadau theatr bûm yn actio ynddynt hefyd dros y blynyddoedd, gan gyfansoddi'r darnau fy hun. Profiad ychydig yn wahanol yn 2012 oedd cydweithio gyda beirdd i greu sioe perfformiad barddol gyda cherddoriaeth ar gyfer plant. Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru ac Arad Goch oedd Bx3 lle roeddwn yn perfformio gyda'r beirdd Aneirin Karadog, Catrin Dafydd ac Eurig Salisbury. Roeddwn i'n gitarydd ym mand sioe gerdd Ieuenctid yr Urdd 2014 - Dyma fi a chyn hynny gyda Cwmni Theatr Meirionydd ar gyfer cynhyrchiad o Joseff a'i Got Amryliw.
Cyfunais waith cyfieithu a recordio sain drwy gyfieithu sgriptiau a recordio llais ar gyfer teithiau llafar i gwmni o'r enw audiotrails.
Treuliais ddwy flynedd yn gweithio yn y pafiliwn yn Montrhydfendiagaid. Roedd y swydd yn gofyn am gyfuniad o sgiliau trefnu, marchnata, gwaith technegol sain a goleuo....a dyma pryd ges i drwydded i yrru cherry picker!
Roedd hyn i gyd yn help pan oeddwn yn rhan o dîm trefnu Gig Hanner Cant Cymdeithas Yr Iaith.
Os oeddech chi'n chwarae mewn band yno ar y prif lwyfan, fi oedd y boi pen moel blin yn eich gwthio chi ar y llwyfan ac yn ymbil i chi ddod oddi arno.